Themâu Newid Ymddygiad

Yn ogystal â bod o fudd i weithwyr a chyflogwyr, bydd WCBC o fudd hefyd i ddefnyddwyr a chwsmeriaid trwy nwyddau, prosesau a gwasanaethau newydd neu well, a bydd yn cynorthwyo gwneuthurwyr polisi a fydd yn cael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y gall diwydiant sbarduno newid.

Bydd WCBC yn gweithio’n uniongyrchol ag unigolion a busnesau yn y meysydd canlynol:

Iechyd a Diogelwch Seiliedig ar Ymddygiad – cymhwyso’r gwyddorau ymddygiadol at ddiogelwch seiliedig ar ymddygiad (BBS), wedi’i seilio ar fodelu, mesur, adborth cadarnhaol a strategaethau gwobrwyo, yn arbennig mewn perthynas ag amgylcheddau lle mae diogelwch yn hollbwysig.

Cynhyrchiant a Lles – galluogi gweithwyr a chyflogwyr i sefydlu patrymau gwaith sy’n fwy effeithlon a chynhyrchiol, gyda’r canlyniad o gael gweithlu cryfach a gwell busnes, drwy hyrwyddo adnoddau gwybyddol ac emosiynol cadarnhaol i adeiladu ‘gwytnwch’ mewn gweithwyr a sefydliadau.

Cynaladwyedd ac Ymwybyddiaeth Ynni – Newid Ymddygiad yw’r elfen greiddiol i gynnal ein hamgylchedd a bydd y project yn cynllunio, cyflawni a hyrwyddo’r dulliau amgylcheddol gorau a fydd yn galluogi defnyddio ei adnoddau i’r eithaf. Bydd WCBC yn gweithio’n agos ag arbenigwyr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor yn Synnwyr Busnes Business Sense (SBBS) sydd wedi’u lleoli yn Sefydliad Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gan SBBS brofiad helaeth o ymwneud â byd busnes a diwydiant i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd a chyfleoedd cyfartal mewn ffordd gynhwysfawr.