Amcanion a Chenhadaeth
Mae gan Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) dair prif amcan sy’n gysylltiedig â’i gilydd:
- Arloesi ym maes ymchwil Newid Ymddygiad
- Hybu ymchwil newydd ac arloesol ar draws meysydd thematig
- Denu ymchwilwyr rhyngwladol ym maes newid ymddygiad i’r Ganolfan
- Hyrwyddo ennill grantiau’n ymwneud â ‘newid ymddygiad’ ar draws y Brifysgol.
- Arloesi gyda defnyddio gwybodaeth bresennol yn ymwneud â newid ymddygiad
- Datblygu ymarfer gorau ar draws nifer o feysydd
- Gweithio gyda sefydliadau i hybu mabwysiadu dulliau gweithredu i newid ymddygiad
- Trwy’r dull unigryw, arloesol a chyfunol hwn o ymdrin â materion economaidd, iechyd, cymdeithasol a thechnolegol, bydd WCBC yn cyfrannu at well cystadleurwydd a datblygiad cynaliadwy mentrau yn y rhanbarth cydgyfeiriant, gan wella lles economaidd, iechyd a chymdeithasol y rhanbarth.