Gwybodaeth am y Ganolfan


Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) yn adeiladu ar enw da academaidd Bangor yn rhyngwladol ac ymchwil gymhwysol ym maes seicoleg ymddygiad a newid ymddygiad.

Mae Newid Ymddygiad yn faes polisi allweddol sy'n hanfodol ar gyfer sefydlu ffyrdd o fyw cynaliadwy, hyrwyddo ffyniant economaidd a datrys llawer o'r materion mwyaf cyffredin ac arwyddocaol sy'n wynebu ein cymdeithas heddiw. Mae WCBC yn cynorthwyo i gyflawni'r sialensiau byd-eang hyn, gan weithredu'n ganolbwynt i Ymchwil a Datblygu cydweithredol a gweithio arloesol gyda diwydiant yng Nghymru, ac ymestyn systemau a dulliau newid ymddygiad i ddarparu ar gyfer y meysydd lle mae angen. I ddechrau, roedd yn broject 2.5 mlynedd a ariannwyd i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru) gyda chyllid cyfatebol gan Brifysgol Bangor.

Cychwynnodd Canolfan Newid Ymddygiad Cymru gyda thri prif wasanaeth i gynorthwyo busnesau:

• Gweithio i gynllunio a chloriannu atebion ymddygiadol i sialensiau penodol yn ymwneud ag unigolion, busnesau a sefydliadau eraill.
• Defnyddio technoleg mewn arloesi ymchwil er mwyn edrych ar y technolegau diweddaraf i hwyluso a hyrwyddo ei gwaith, megis apiau, gemeiddio, delweddu 3D, cyflwyno dewisiadau, a thechnolegau eraill sy'n rhan o'i gwaith.
• Bydd cyfran o'r gwaith yn cynnwys ymchwiliadau i niwrowyddoniaeth newid ymddygiad, yn cynnwys er enghraifft, peth ymchwil Delweddu Cyseiniant Magnetig Gweithredol (fMRI).



Drwy gyfres o becynnau gwaith mae'r Ganolfan wedi trosglwyddo gwybodaeth ac adnoddau perthnasol i sectorau diwydiant i gryfhau mentrau Cymreig a gwella'r awydd i gystadlu yn yr ardal Cydgyfeiriant a thu hwnt.

Themâu Cyfredol y Ganolfan

Er bod cyfnod cyllido cychwynnol WEFO wedi dod i ben ers amser maith, mae'r ganolfan yn parhau i ddarparu cyfleoedd ymchwil cydweithredol, gweithdai a seminarau pwrpasol, ac yn gweithredu fel Melin Drafod ar gyfer rôl gwyddor ymddygiad mewn iechyd a lles cyfoes y cyhoedd.



Ymhlith y prif feysydd ffocws thematig mae:


• Cynhyrchedd a Lles Sefydliadol
• Ymddygiad Iechyd y Cyhoedd
• Cynaliadwyedd


Cyfarfod â’r Tîm


Mae'r ganolfan wedi'i lleoli yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, ond mae ganddi aelodau o Ysgolion yn y Coleg Gwyddorau Iechyd a Choleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg

Yr Athro John Parkinson, Cyfarwyddwr y Ganolfan, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg
Yr Athro Carl Hughes, Cyfarwyddwr y Ganolfan 2013-2016, Pennaeth yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol
Dr Rhi Willmot, Gwyddonydd Ymddygiadol Arweiniol, Ysgol Seicoleg
Dr Andy Goodman, Arweinydd Creadigol ac Arloeswr, yr Ysgol Beirianneg
Mr Arwel Williams, myfyriwr PhD, Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol